Adnoddau Atodol

Cofiwch fod llawer o adnoddau ar
gael yn y siopau llyfrau Cymraeg!
Cyfres o adnoddau ‘eraill’ a geir yma – y math o bethau sydd yn ddefnyddiol weithiau ac yn hollol angenrheidiol ar adegau eraill. Mae rhai gêmau masnachol Saesneg (*) yn cael eu harchwilio gan ein tiwtoriaid ni ar hyn o bryd felly peidiwch â gwario ar y rheiny eto nes bod y posibiliadau’n gliriach.
Dis a Chownteri
Dis ar gyfer pob math o gêmau a gweithgareddau. Dewis mawr o ddis chwech ochr a rhai aml-ochrog. Y rhai mwyaf ydy’r dis ugain ochr. Mae’r dis anarferol yn gallu rhoi opsiynau newydd wrth chwarae rhai gêmau bwrdd.
Mae cownteri amrywiol hefyd ar gael gan y gwerthwyr hyn:
www.dice.co.uk/products.htm
www.plasticsforgames.co.uk
www.chessex.com
Os dych chi’n uchelgeisiol, mae Chessex yn rhoi cyfle i chi gynllunio’ch dis eich hun ond mae’r broses yn gallu bod yn ddrud os nad ydych yn archebu nifer sylweddol. Am ddis sydd yn dangos lluniau yn hytrach na geiriau ewch i safle Talking Dice.
www.talkingdice.co.uk
Cardiau Fflach
Cardiau Fflach CBAC – Cyfres o gardiau fflach a llyfryn i diwtoriaid
Cardiau fflach Acen – arwyddion, swyddi, tywydd, lleoedd, teimladau, salwch, gweithgareddau bob dydd, gweithgareddau yn y gweithle, ansoddeiriau a ‘sbardun siarad’ ar gyfer y lefelau uwch. Gyda a heb y geiriau Cymraeg. Mawrth 2007.
Gwefan sy’n caniatáu i chi wneud eich cardiau fflach eich hun am ffi.
http://www.flashcardexchange.com/
Cardiau ar gyfer plant. Deniadol ond fel arfer yn cynnwys y geiriau Saesneg.
http://www.abcteach.com
http://www.kizclub.com
Casgliad helaeth a defnyddiol o gardiau fflach ar gyfer dysgu’r Saesneg ond mae angen talu ffi am gael eu defnyddio.
Driving Test – CD-ROM o arwyddion ffyrdd mae modd eu hargraffu.
Clociau Dysgu
Clociau dysgu â chefnau magnetig.
http://www.lakeshorelearning.com
Clociau dosbarth a chlociau larwm â’r amseroedd wedi’u hargraffu yn Gymraeg.
Gêmau Bwrdd Cymraeg
‘Scrabble’ yn Gymraeg a gêmau eraill
http://icnorthwales.icnetwork.co.uk/
http://www.tilefish.co.uk
‘Gêm yr Eisteddfod’ – Gêm yn seiliedig ar yr Eisteddfod Genedlaethol
Posteri Cymraeg
Cyfres o bosteri wedi’u hanelu’n bennaf at blant - rhifau, y wyddor, y calendr, rhigymau ac yn y blaen.
http://www.freeweb.telco4u.net
Poster Chwedlau Cymru
Casgliad helaeth o bosteri gan gynnwys ‘Ein Tad’ a ‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’. Hefyd casgliad da o sticeri Cymraeg.
Posteri Natur
Posteri Tywydd
Posteri ‘Cadwch Gymru’n daclus’
Baner y Ddraig Goch
Welsh National Flag (Cymru), Flag of the Country of Wales - Poster
Mapiau a Golygfeydd
Casgliad sylweddol o fapiau a golygfeydd.
Dinasoedd a threfi, afonydd a thirwedd
Gêmau Domino
Casgliadau enfawr o ddominos ar gyfer gêmau gwahanol. Mae Double Nine yn gwerthu dominos â lluniau.
http://www.camberwells.com
http://www.mastersgames.com
http://www.uk.shopping.com
Pypedau a Phypedau Bys a Bawd
Gallai’r rhain fod yn ddefnyddiol lle bo pwyslais ar ddysgu rhieni â phlant ifainc ac athrawon ac mewn sefyllfaoedd dysgu teuluol.
http://www.boxtreegallery.co.uk
http://www.woolgarstoys.co.uk
http://www.puppetsbypost.com
Cardiau Chwarae Masnachol
Mae casgliad sylweddol o gardiau chwarae a gêmau cardiau ar gael gan y rhain. Mae playingcardsonly.co.uk yn gwerthu cardiau chwarae traddodiadol enfawr ar gyfer gwaith dosbarth. Mae English Toys yn gwerthu cardiau snap a Theuluoedd Hapus. Mae www.donaygames.com yn gwerthu cardiau mwy arbenigol.
Mae setiau gwych o gardiau gan Donay Games a Jacques (e.e. Round the World) ond maen nhw’n tueddu i fod yn y categoriau ‘clasurol’ ac felly yn ddrud.
www.playingcardsonly.co.uk
www.englishtoys.com
http://www.collectorsplayingcards.co.uk
Os am greu’ch cardiau eich hun, mae modd gwneud hynny trwy Ivory Graphics ond mae angen prynu sawl set er mwyn bod yn gost-effeithiol. Rhywbeth ar gyfer canolfannau efallai. Gallai fod yn rhatach i drafod posibiliadau ag argraffwyr lleol.
http://www.ivorygraphics.co.uk
Pethau Eraill i’r Dosbarth
Popeth – o ffrwythau a bwydydd plastig i adnoddau ar gyfer chwarae rôl
Ffrwythau a llysiau plastig!
Gweithgareddau Cymunedol
Peiriannau bingo a dartiau.
Peiriannau bingo ac offer ar gyfer nosweithiau cwis ac ati.
http://www.thomasandanca.co.uk
Arlunwaith gan Arlwynwyr Cymru
Cymru a’i phobl ar gynfas.
http://www.welshpaintings.co.uk/
Llyfrau a CD-ROM
‘Language Games for English Language Learners’. CD-ROM gan Macmillan â thros 150 o gêmau. Addas ar gyfer oedolion. Mae modd addasu nifer o’r gêmau ar gyfer y dosbarth. Mynediad i Uwch. Mae’n werth ymweld â gwefan EFL yn gyson er mwyn cael gwybod am ddatblygiadau.
‘Card Games for Kids: 50 Fun Games for your Children’. Nifer o syniadau da ar gyfer gweithgareddau. Nid yw popeth yn addas wrth reswm.
‘100 Language Games for Ages 0-3’ – Syniadau gwych ar gyfer tiwtoriaid sydd yn dysgu mamau â phlant ifainc iawn. Mae’r gêmau yn gysylltiedig â gweithgareddau arferol plentyn ifanc iawn – gwisgo, bwyta, mynd allan, chwarae a chysgu.
‘100 Language Games for Ages 3-5’ – Syniadau gwych ar gyfer tiwtoriaid sydd yn dysgu mamau â phlant sydd yn edrych ymlaen at fynd i’r ysgol.
‘101 Language Games for Children’ – Syniadau yn hytrach na chymorth uniongyrchol.
ESL Content-Based Language Games, Puzzles and Inventive Exercises – Syniadau ar gyfer y dosbarth.
Language Games and Activities – casgliad da gan CILT. 1994 ond yn dal i fod yn ddefnyddiol
Gêmau Masnachol Saesneg
‘Guess Who? – Gêm disgrifio pobl sydd wedi bod yn boblogaidd ers blynyddoedd mewn dosbarthiadau Cymraeg i oedolion.
‘Eco Fluxx’ – Gêm yn seiliedig ar yr amgylchfyd*
‘Say What’ – Syniadau da ar gyfer sesiynau cymdeithasol. Gallent weithio’n dda ar gwrs preswyl.*
‘Who’s the Ass Cardgame’ – Y nod yw cael gwaraed ar yr holl gardiau sy gennych chi.*