Cymraeg i Oedolion ac E-ddysgu

Arwel Jones, Acen    Hydref 2006

1. Datblygu E-ddysgu

1.1 Dyfeisiwyd yr ymadrodd ‘e-ddysgu’ gan fyddin yr Unol Daleithiau ac fe’i defnyddiwyd yn wreiddiol i ddisgrifio dysgu a ddosbarthwyd drwy unrhyw gyfrwng digidol - ffilm, teledu, CD, CD-ROM, DVD, y ffôn neu’r rhyngrwyd.

1.2 Mae diffiniadau diweddar o e-ddysgu wedi canolbwyntio mwy ar y math o brofiad dysgu a gynigir yn hytrach na’r cyfrwng. Mae Salmon (E-Weithgareddau, 2005) yn mynnu na ddylid defnyddio’r term e-ddysgu onibai bod rhywun yn disgrifio ‘profiad rhwydweithio, y gellir ei ddiweddaru ar unwaith, ei gadw a’i adfer, a’i ddosbarthu a’i rannu.’ A derbyn diffiniad Salmon, nid oes modd cynnwys, CD, CD-ROM a DVD. Ni fyddai pob addysgwr, fodd bynnag, yn mynd mor bell â Salmon. Mae sefydliadau fel learndirect yn dibynnu’n drwm iawn ar CD-ROM er mwyn dosbarthu eu dysgu. Fodd bynnag, ceir consensws cyffredinol bod y ‘profiad a rennir’ yn rhan allweddol o e-ddysgu a bod ‘e-ddysgu’ nawr yn dod yn gyfystyr â’r rhyngrwyd, y mewnrwyd a theledu rhyngweithiol.

1.3 Diwydiant anferth ydy e-ddysgu erbyn hyn sydd wedi tyfu bron 700% er 2001. Mae bron i 900,000 o gyrsiau ffurfiol ar gael yn ogystal â miliynau o raglenni dysgu anffurfiol. Amcangyfrifir bod y trosiant byd-eang yn agos at $9 triliwn (LSI et alia).

Mae S-ddysgu (M-learning neu Mobile Learning) – dysgu trwy PDA, rhwydweithiau diwifr a ffonau symudol yn ogystal â defnyddio’r we ar daith hefyd yn dod yn farchnad fawr er bod eu defnydd, yn gyffredinol, yn gyfyngedig i wersi blasu a chyrsiau nod syml.

1.4 Ceir disgrifiad o fanteision cyffredinol e-ddysgu gan Rosenberg et alia (2001):

(a) Gall e-ddysgu leihau costau hyfforddi’n sylweddol wedi’r buddsoddi cyntaf. Yn y gweithle, cost fwyaf unrhyw hyfforddi ydy’r amser a dreulir gan staff allan o’r swyddfa – mewn dosbarthiadau neu ar y ffordd. Mae e-ddysgu yn caniatau i staff ymgymryd â dysgu heb adael y swyddfa.

(b) Mae modd cynnig e-ddysgu i nifer fawr o bobl ar yr un pryd. Yr unig elfen sy’n cynyddu wrth gynyddu nifer y myfyrwyr ydy’r costau cynnal (cymorth technegol a mentora). Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau traddodiadol yn gosod cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr ar gyfer unrhyw gwrs penodol.

(c) Mae modd addasu’r cynnwys er mwyn ateb anghenion gwahanol.

(ch) Mae modd newid y cynnwys yn gyflym er mwyn adlewyrchu

anghenion newydd. Mae hyn o bwys hanfodol mewn cymdeithas sydd yn newid a lle y gall disgrifiadau swyddi newid yn rheolaidd.

(d) Gall dysgwyr weithio ar eu cyrsiau o unrhyw leoliad ac ar unrhyw adeg.

(dd) Gall e-ddysgu adeiladu cymunedau ymarfer, lle y gellir rhannu arbenigedd a phrofiad, hyd yn oed pan fydd dysgwyr yn byw mewn trefi - a gwledydd – gwahanol.

1.5 Mae pryderon cynnar ynglyn â diffygion e-ddysgu yn cael eu lliniaru’n raddol. Erbyn hyn, mae materion sy’n ymwneud â mynediad at dechnoleg (ofn technoleg, sgiliau llythrennedd cyfrifiadur isel, diffyg sgiliau teipio, prinder meddalwedd mynediad ar gyfer anghenion arbennig) yn llai pwysig wrth i argaeledd cyfrifiaduron PC a chynllunio a dylunio’r cynnwys wella. Mae pobl ifanc y Deyrnas Unedig yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd nag unrhyw grwp ieuenctid arall yn Ewrop. Yn ogystal â hyn, mae pryderon ynglyn ag argaeledd cysylltiadau band eang a gwasanaethau teledu digidol hefyd yn dod yn llai o broblem - yn enwedig yng Nghymru lle mae mentrau rhagweithiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi arwain at sefyllfa lle mae cyfartaledd y rhai sy’n derbyn band eang a theledu digidol yn uwch na gweddill y DU. Ni fydd e-ddysgu yn ddewis addas byth ar gyfer rhai dysgwyr. Yn yr un ffordd ni fydd e-ddysgu byth yn amgylchedd addas ar gyfer rhai mathau o gynnwys dysgu.

1.6 Mae ymchwil a gynhaliwyd mewn sefydliadau allweddol er 1998 wedi tawelu llawer o’r pryderon cynnar ynglyn ag e-ddysgu.

Tynnir sylw yn arbennig at y canlynol:

Pryder cynnar: ‘Ni all dysgwyr ddysgu ar-lein’

Ymchwil : Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd ym 1998 fod oedolion yn defnyddio synhwyrau gwahanol wrth ddysgu. Dangoswyd bod e-ddysgu sydd yn manteisio ar nifer o synhwyrau gwahanol yn gallu bod yn effeithiol iawn. (Gunawdena, 1998). Dangosodd cynllun ymchwil arall, fodd bynnag, nad yw’n angenrheidiol i orlwytho dysgwyr â sbardunau gweledol a chlywedol. Trwy fesur canlyniadau dygwyr dros gyfnod, dangoswyd bod defnydd gofalus o fethodoleg sy’n apelio at y synhwyrau mewn ffordd ofalus ac ystyrlon yn bwysicach o lawer. (Clark, The No Significant Difference Phenomenon).

Pryder cynnar : ‘Mae angen gormod o sgiliau technegol ar diwtoriaid i ddysgu dysgwyr ar-lein’

Ymchwil : Os ydy cyrsiau wedi’u cynllunio’n ofalus does dim rhaid iddynt fod yn dechnegol cymhleth i ddysgwyr na mentoriaid (Hanna et alia, 2001).

Pryder cynnar: ‘Dydy rhyngweithio ddim yn bosibl ar-lein’

Ymchwil: Mae datblygiadau mewn meddalwedd a chysylltiadau cynt yn golygu bod e-bost, post llafar, fforymau a chelloedd cloncian (chat rooms) yn cynnig cyfle parod i ddysgwyr ryngweithio. Dangosir hefyd fod rhai dysgwyr yn ei chael yn haws cyfathrebu ar-lein nag mewn sefyllfaoedd wyneb yn wyneb. (Hanna et alia, 2001).

Pryder cynnar : ‘Dydy dosbarthiadau ar-lein ddim yn gwneud i ddysgwyr deimlo eu bod yn perthyn i gymuned sydd yn dysgu’

Ymchwil : Mae ystafelloedd dosbarth ar-lein wedi dangos eu bod yn hyrwyddo dysgu ymhlith cymunedau o bobl a chanddynt nodau tebyg. Gall myfyrwyr a mentoriaid ddod yn agosach na dysgwyr a thiwtoriaid mewn amgylcheddau dysgu traddodiadol gan fod yr angen i ‘gystadlu’ a ‘goroesi’ mewn ystafell dosbarth go iawn wedi ei ddileu (Parker Palmer, 1998).

Pryder cynnar: ‘Ni ellir dysgu ieithoedd ar-lein’

Ymchwil : Mae dulliau o weithio aml-gyfryngol ac aml-synhwyrol yn caniatáu i fyfyrwyr brofi a datblygu iaith mewn amgylcheddau rheoledig a hanner rheoledig cyn mentro i’r byd cymdeithasol cymhleth o gyfathrebu anreoledig. Gall dysgwyr eu paratoi eu hunain hefyd ar gyfer cyfathrebu anreoledig mewn ffyrdd sydd yn siwtio eu harddull dysgu eu hunain. Mae dysgu mewn dosbarth yn dueddol o ddilyn ‘arddull sengl’ - fel arfer yn canolbwyntio ar gynhyrchu llafar (Hanna et alia, 2001). Mae hyn yn gallu achosi problemau mawr i ddysgwyr sydd yn dysgu er mwyn darllen neu ysgrifennu neu sydd yn teimlo’r angen i astudio gramadeg cyn dechrau cynhyrchu iaith. Yng Nghymru, rai blynyddoedd yn ôl, arweiniodd yr ‘arddull sengl’ a oedd yn cael ei hyrwyddo trwy un cwrs cenedlaethol ar gyfer oedolion at rwystredigaeth sylweddol a daeth y ffrae i sylw’r cyhoedd trwy un o raglenni Y Byd ar Bedwar ar S4C.

Gall e-ddysgu hefyd adael i ddysgwyr ganolbwyntio ar yr union gynnwys iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw. Gall rhieni ddysgu’r tasgau cyfathrebu sydd yn angenrheidiol ar gyfer magu plentyn. Gall staff yn y gweithle ganolbwyntio ar sgiliau sydd yn seiliedig ar eu gwaith. Dangoswyd bod hyn yn ysgogydd anferth. (Hanna et alia, 2001).

Mae peryglon yn bodoli o hyd a all rwystro ac arafu datblygiad e-ddysgu. Yn gyntaf rhaid mabwysiadu systemau ariannu a gweinyddu a all ymdopi ar lefel weinyddol ag e-ddysgwyr yn ogystal â myfyrwyr ‘tinau ar seddau’. Mae hefyd waith mawr i’w wneud eto ym maes e-asesu ac e-gynnal myfyrwyr.


2. Cymraeg i Oedolion ac E-ddysgu

2.1 Dechreuodd e-ddysgu ym maes Cymraeg i Oedolion ddatblygu yn yr wythdegau cynnar pan wnaeth J Philip Davies (Coleg Cartrefle) a Geraint Wyn Jones (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor) ddechrau arbrofi gyda rhaglenni syml ar gyfer y BBC-B. Mabwysiadwyd y rhain mewn rhai ysgolion ac fe’u defnyddiwyd mewn arddangosfeydd yn ystod ysgolion haf a sesiynau hyfforddi ar gyfer tiwtoriaid. Fodd bynnag, ni lwyddwyd i’w datblygu yn adnoddau priflif y gellid eu defnyddio gan fyfyrwyr yn y cartref neu yn ystafelloedd dosbarth Cymraeg i Oedolion. Ni fu llawer o ddatblygu ar lefel genedlaethol yn ystod y blynyddoedd ar ôl y cyfnod cynnar hwn – yn bennaf oherwydd anghysondeb yn y llwyfannau digidol a oedd ar waith mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru (Apple, Unix, IBM, Amstrad etc). Amlygwyd y broblem hon yn adroddiad CBAC yn 1988 i’r Swyddfa Gymreig ar ddatblygiad Cymraeg i oedolion ac mewn adroddiadau gan Arolygwyr ei Mawrhydi yn ystod yr wythdegau hwyr a’r nawdegau cynnar.

2.2 Erbyn 1995, dechreuodd y rhyngrwyd ddod yn boblogaidd ymhlith dysgwyr a oedd yn gyfarwydd â chyfrifiaduron er bod y cysylltiadau yn rhai araf bryd hynny. Fodd bynnag, fe welodd nifer o fudiadau Cymraeg i oedolion a rhai unigolion ymroddgar, y potensial i ddosbarthu gwybodaeth ar ffurf testun (geiriau). Erbyn 1998, roedd tri chwrs syml ar gael ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Erbyn hyn (2006) mae chwe deg o gyrsiau ar gael a channoedd o safleoedd gwybodaeth a gwelogiau gwybodaeth - safleoedd sydd wedi cael eu llunio gan ddysgwyr unigol ar gyfer dysgwyr eraill. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau (91%) wedi cael eu dylunio a’u hysgrifennu gan sefydliadau ac unigolion yng Nghymru. Fodd bynnag ceir nifer fach ond arwyddocaol (9%) sydd â’u gwreiddiau yn yr Unol Daleithiau, Awstralia ac Ewrop.

2.3 Mae’r cyrsiau Cymraeg i oedolion sydd ar gael ar y we (Atodiad 1) yn perthyn i’r categorïau cydnabyddedig cyffredinol hyn:

Gweithgareddau Lefel Isel (67%)

‘Shovelware’: Cyrsiau ac adnoddau a ddyluniwyd yn wreiddiol fel nodiadau darlithio neu ar gyfer y dosbarth neu ddefnydd cymdeithasol sydd wedi cael eu postio ar y we er mwyn sicrhau dosbarthu effeithiol. Mae’r rhain yn tueddu i fod ar ffurf taflenni printiedig ac maen nhw’n amrywio’n fawr o ran addasrwydd, cynnwys a dylunio. Mae’r rhai gorau yn adnoddau arbennig o ddefnyddiol. Mae’r rhai gwaethaf yn y categori ‘vanity publishing’ a heb fod o fudd i ddysgwyr y Gymraeg. Mae rhai yn gamarweiniol iawn. Mantais y ‘shovelware’ yw bod modd mynd ato heb gysylltiad band llydan.

Gweithgareddau Lefel Ganolig (19%)

‘Shovelware Plus’: Cyrsiau ac adnoddau a luniwyd yn wreiddiol ar gyfer eu defnyddio yn yr ystafell dosbarth ac sydd wedi cael eu haddasu. Yn aml, mae hyn yn golygu ychwanegu ffeiliau sain er mwyn hwyluso ynganu.

Ymhlith yr enghreifftiau mwyaf diweddar o ‘shovelware plus’ mae rhaglenni sydd yn cynnwys animeiddiadau neu ddarnau fideo byr a ddefnyddir i gynyddu mwynhad a symbyliad y defnyddiwr ond sydd yn parhau i fod yn ei hanfod, yn rhestrau o batrymau a geirfa.

Rhyngweithio Mewnol: Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys ymarferion hunan gywiro sydd yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau. Mae’r mathau o weithgaredd yn cynnwys llenwi bylchau, cwestiwn ac ateb, hoelio atebion, gweithgareddau un-dyn-ar-ôl ayyb. Ar y lefel yma, mae’r gweithgareddau yn tueddu i fod yn seiliedig ar destun a thestun animeiddiedig.

Gall dysgwyr ddefnyddio modem 56k ar gyfer rhai gweithgareddau lefel ganolig.

Gweithgareddau Lefel Uwch (14%)

Rhyngweithio Mewnol Holistig: Rhaglenni gam wrth gam sydd yn arwain dysgwyr tuag at nod a gytunwyd o flaen llaw. Maent fel arfer yn defnyddio symbyliadau aml-synhwyrol ac maent yn cynnig ffyrdd o werthuso ac asesu.

Rhyngweithio Allanol Holistig: Cyrsiau ac adnoddau sydd yn meithrin cymuned dysgu a chydweithio ysryrlon rhwng myfyrwyr. Mae’r gweithgareddau yma fel arfer yn gofyn am gysylltiad band eang er bod rhai eithriadau.

2.4 Mae’r rhan fwyaf (81%) o’r cyrsiau ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer Cymraeg i oedolion yn anelu at roi cymorth i fyfyrwyr sydd yn dysgu’r tasgau cyfathrebu sylfaenol. Ceir, felly, lawer o ddyblygu. Dim ond 19% sydd wedi cael eu llunio i ateb anghenion dysgwyr â nodau dysgu penodol.

2.5 Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd yn mabwysiadu dull strwythurol er bod y nod yn cael ei ddisgrifio’n aml fel tasg gyfathrebol.

3. Dyfodol E-ddysgu ym Maes Cymraeg i Oedolion

3.1 Un strategaeth bosib ar gyfer e-ddysgu ym maes Cymraeg i oedolion fyddai peidio a chael strategaeth o gwbl a gadael y datblygu i’r farchnad ac i ddeinameg y rhyngrwyd a chymunedau dysgwyr y Gymraeg. Mewn rhai ffyrdd byddai hyn yn safiad hollol dderbyniol. Mae rhai fyddai’n dadlau yn gryf dros anarchiaeth mewn e-ddysgu. Byddai’n sicr yn annog buddsoddiad ar raddfa fach gan y sector breifat yn yr hyn a fyddai’n ymddangos yn farchnad glir ac fe fyddai’n hybu datblygu’r gymuned ddysgu trwy safleoedd gwe-log. Gwna rhai academyddion y pwynt (elearnspace, 2005) fod dysgu anffurfiol yn agwedd arwyddocaol nawr o’n profiad dysgu, a bod ein dysgu yn debygol o ddod o gymunedau a rhwydweithiau personol a cymunedau a rhwydweithiau tasg-ganolog yn y gweithle.

3.2 Fodd bynnag, byddai datblygu heb strategaeth glir yn dod â rhai anfanteision sylweddol. Byddai adnabod cyrhaeddiad dysgwyr a sicrhau ansawdd yn dod yn fwy ac yn fwy anodd a byddai cyfarfod ag anghenion penodol ac arbennig yn annhebygol o ddigwydd ac eithrio lle byddai mantais amlwg i gorff masnachol neu i gorff gwirfoddol neu gyhoeddus. Yn sicr, byddai’r meysydd mwyaf poblogaidd (a masnachol ffafriol) yn cael eu targedu gan fuddsoddwyr ac mae’n debygol y byddai cyrsiau Cymraeg yn cael eu llunio yn sgîl cyrsiau ieithoedd modern. Mae dadl gref felly dros ddatblygu strategaeth fyddai’n sicrhau gwasanaeth effeithiol a chydnabyddedig tra, ar yr un pryd, yn manteisio ar ddeinameg dysgu ar-lein cymunedol a gweithgarwch masnachol. Mae Acen yn un o’r cyrff hynny sydd yn gweithio ar strategaeth ar hyn o bryd a disgwylir cyhoeddi papur trafod ym Mawrth 2007.