Defnyddio'r Wefan
Pwrpas y wefan hon ydy darparu gwasanaeth ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion sydd yn gweithio i Acen.
Mae modd all-lwytho unedau, benthyg adnoddau i’w defnyddio â dosbarthiadau, dysgu bod yn e-fentor, darllen newyddion a sicrhau eich bod yn gwybod am gyrsiau hyfforddi a chynadleddau.
Mae modd hefyd i chi anfon cofrestrau a ffurflenni hawlio tâl a threuliau.
Os nad ydych wedi defnyddio’r wefan hon o’r blaen, bydd angen i chi gofrestru gan nodi’ch rhif cyflogi (sydd ar gael gan Rhun). Cewch lysenw a chyfrinair fydd yn gweithio’n syth.
Os nad ydych yn gweithio i Acen cewch gyflwyno cais am fynediad i rai o’r parthau trwy lenwi’r ffurflen briodol. Cewch ddefnyddio'r un ffurflen os dych chi'n chwilio am waith gyda'r cwmni.
Mae rhai adrannau yn agored i bawb beth bynnag. Tynnwn sylw yn arbennig at y cyfle sydd i bawb dreialu adnoddau Cynllun Adnoddau Atodol ELWa. Bydd y Fforwm yn rhannol agored i bawb o ganol Ionawr.
Rhun Gwynedd