Erthyglau a Dogfennau

Mae’r isod yn gasgliad o erthyglau a dogfennau sydd wedi profi'n hynod ddefnyddiol. Byddem yn croesawu cyfraniadau gan diwtoriaid sydd wedi cael budd wrth ddarllen erthyglau eraill. Byddem hefyd yn hoffi clywed gan unrhyw diwtor sydd ag erthygl o’i eiddo ei hun i’w chyfrannu.

Roedd y dolenni’n weithredol pan luniwyd y rhestr.

Dogfennau a Chylchgronau sydd ar Gael am Ddim

Newyddion CILT Cymru – gwybodaeth ddefnyddiol am feysydd dysgu ieithoedd yng Nghymru ac adroddiadau gan ysgolion, colegau a sefyldliadau. Ar gael ar ffurf PDF. Mae’r wefan yn cynnwys nifer o hen rifynnau.

www.cilt.org.uk

The Business of Language – Adroddiad ar ddatblygiadau ym maes dysgu ieithoedd yn y gweithle

www.cilt.org.uk

Cylchgrawn Acen – Adnoddau ar gyfer dysgwyr ar y lefelau cyntaf (Mynediad a Sylfaen)

Cliciwch yma

Humanising Language Teaching – Cylchgrawn am ddim ar y we. Mae’r deunydd yn newid yn wythnosol.

www.hltmag.co.uk

Links – Cylchgrawn ar gyfer swyddogion sydd yn gyfrifol am hyfforddi athrawon a thiwtoriaid iaith

www.cilt.org.uk

Ymchwil – Basdata o erthyglau ym maes ieithoedd modern yn y DU. Cyfle i anfon manylion am unrhyw ymchwil rydych yn ymwneud ag e.

www.languagesresearch.ac.uk

Higher – Cylchgrawn sydd yn canolbwyntio ar ddysgu ieithoedd ar lefel addysg uwch

www.cilt.org.uk

Erthyglau

Pwrpas y casgliad byr hwn o erthyglau ydy cyflwyno tiwtoriaid i ystod o syniadau a fydd yn arwain at ddarllen pellach.

Cyrchddulliau Cynnwys-ganolog

Mae pwyslais mawr ar ddysgu cynnwys-ganolog erbyn hyn. Mae’r syniad ei hun – caffael iaith trwy wneud pethau eraill – yn un cyfarwydd iawn i diwtoriaid profiadol. yng Nghymru.

CAL Resource Guide – Gwefan gynhwysfawr gan y Center for Applied Linguistics sydd yn rhestru gwefannau defnyddiol ym maes dysgu cynnwys-ganolog.

www.cal.org

Content Based ESL Curriculum and Academic Language Proficiency – Cyflwyniad academaidd ond clir i faes dysgu cynnwys-ganolog

http://iteslj.org

Cyrchddulliau Suggestopaedia (Desuggestive Learning), Gestalt, Chwimddysgu (AL), Ymateb Corff Cyfan (TPR), Y Naw Meddwl a Rhaglenni Niwro-ieithyddol (NLP)

Mae'r casgliad hwn o ddamcaniaethau dysgu wedi bod yn datblygu dros y 40 mlynedd diwethaf. Daeth rhai i amlygrwydd yng Nghymru ddechrau’r wythdegau ac am gyfnod byr bu tipyn o sôn am y ‘right brain method’. Mae rhai o egwyddorion y cyrchddulliau wedi cael eu hymgorffori mewn nifer o gyrsiau ers hynny. Yn ddiweddar, bu mwy o bwyslais ar y cyrchddulliau hyn yn sgil gwaith Ioan Talfryn ac eraill.

Accelerated Learning – Accelerated Training – Erthygl ddiddorol sydd yn cyflwyno chwimddysgu gan Paul Hobbs

www.learningtechnologies.co.uk

A Holistic Approach – Erthygl gan Irena Kostenbauer sydd yn edrych ar Suggestopaedia a Chyrchddull Gestalt mewn dosbarthiadau ar gyfer plant

www.e4kids.at

Focus Opinion – Erthygl fer gan Richard Phillips sydd yn tynnu sylw at fanteision chwimddysgu wrth ddysgu iaith yn y gweithle

www.trainingjournal.com

Howard Gardner, Multiple Intelligences and Education – Erthygl hir a chynhwysfawr sydd yn esbonio’r gwahanol agweddau ar y meddwl a sut maen nhw’n effeithio ar ddysgu.

www.infed.org

Multiple Intelligences Theory – Erthygl sydd yn rhestru ac yn disgrifio’r Naw Meddwl

What Does Suggestopaedia (Desuggestive Learning) Look Like at Present? – Erthygl gan Dr Georgi Lozanov, ‘tad’ Suggestopaedia.

http://lozanov.hit.bg

Rhoi Dadawgrymeg ar Waith ym Maes Cymraeg i Oedolion – Enghraifft o Wers gan Howard Edwards (Gallai’r teitl hwn newid)

Cliciwch yma

Cyrchddulliau a Dulliau (Cyffredinol)

Teaching Approaches – Casgliad da o erthyglau sydd yn cyflwyno’r cyrchddulliau gwahanol sydd yn sail i lawer o gyrsiau iaith

www.onestopenglish.com

Developing Listening Skills with Authentic Materials – Syniadau ar gyfer tasgau gwrando

www.eslmag.com

Debate One: Is it Possible to Teach Grammar? - Jim Scrivener

www.onestopenglish.com

Cyflwyniad i E-ddysgu – Yr Hanes a’r Cefndir – Erthygl gan dîm Acen

Cliciwch yma

New Ways of Using Technologies in English Language Teaching – Syniadau newydd ar gyfer cynllunio ac asesu

www.eslmag.com

Good Practice in Teaching and Learning Vocabulary – Golwg ar gyrchddulliau dysgu geirfa gan Richard Wakely

www.llas.ac.uk

How Good is your Vocabulary Program? – Syniadau ar gyfer cynllunio gan Paul Nation

www.eslmag.com

Hidden Merits of the Translation Class – Golwg ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd yn dod yn sgîl cyfieithu gan Penelope Sewell

www.llas.ac.uk

Translation From and Into the Foreign Language – Syniadau ar gyfer ymarferion

www.llas.ac.uk

Writing in a Second Language – Golwg ar ddulliau – hen a newydd gan Alisdair Archibald.

www.llas.ac.uk

Bwletinau Arholiadau Cymraeg i Oedolion

http://www.wjec.co.uk

Teaching Technologies – Casgliad o erthyglau sydd yn edrych ar adnoddau rhyngweithiol, creu gwefannau, gwersi trwy’r rhyngrwyd a defnyddio fideo.

www.onestopenglish.com

Ymchwil i Anghenion Sgiliau Iaith Gymraeg Cyflogwyr – Canfyddiadau ymchwil yn 2004

www.acen.co.uk

Gwerthuso Cymraeg i Oedolion – Adroddiad NFER, 2004

www.acen.co.uk

Gwerthuso Cymraeg i Oedolion – Adroddiad Estyn, 2004

www.estyn.gov.uk

Personolised Speaking – Syniadau am sut i gael myfyrwyr i siarad amdanyn nhw eu hunain gan David Heathfield.

www.teachingenglish.org.uk

A Tough Hill to Climb Alone - Welsh Learners Speak - Lynda Pritchard Newcombe

A Tough Hill to Climb Alone

A Tough Hill to Climb Alone - Welsh Learners Speak (Bibliography) - Lynda Pritchard Newcombe

Bibliography

Llyfryddiaeth Cymraeg I Oedolion 1960-2002

Casgliad da o adnoddau darllen a gasglwyd ynghyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Hyfforddi’r Dysgwr

Yn bur aml mae dysgwyr yn dioddef am nad ydynt yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Pwrpas yr erthyglau hyn ydy cynorthwyo’r dysgwr i lunio’i lwybrau a’i strategaethau dysgu ei hun.

What? Me Worry About Language Learning? – Erthygl gynhwysfawr iawn gan Greg Thomson

www.languageimpact.com

Erthyglau Mae’n Rhaid Gwneud Cais Amdanynt

Teaching Welsh as a Second Language to Adults – Briony Beaven, IATEFL, 2005

Dadansoddi Gwallau Iaith Dysgwyr, Adrian Price, Barn 380, 1994

An Analysis of the Syntactical Errors of Adult Leraners of Welsh, Adrian Price, Journal of Celtic Linguistics 149-158

Cylchgronau i’w Prynu

Teacher Trainer – Cylchgrawn a gwefan. Mae’r wefan yn cynnwys crynodebau diddorol o’r prif erthyglau. Yn ymdrin â phob agwedd ar hyfforddi – nid dysgu ieithoedd yn unig.

www.tttjournal.co.uk

Language Magazine – Cylchgrawn hynod ddiddorol ar gyfer tiwtoriaid gan fod y cynnwys yn ymarferol iawn ac yn arwain yn uniongyrchol at weithgareddau yn y dosbarth.

www.languagemagazine.com

English Teaching Professional – Syniadau da a gwybodaeth ddiddorol ond y cynnwys wedi’i anelu at diwtoriaid sydd yn dysgu’r Saesneg.

www.etprofessional.com

Modern English Teacher – Unwaith eto, yr holl bwyslais ar ddysgu’r Saesneg. Wedi dweud hynny, mae’r cylchgrawn hwn yn un da ar gyfer pobl sydd am wybod beth ydy’r tueddiadau a’r damcaniaethau ym maes dysgu iaith.

www.onlinemet.com

The Modern Language Journal – Ar gyfer tiwtoriaid sydd am edrych ar agweddau mwy academaidd ar fethodoleg.

www.ingentaconnect.com

One Stop English – Gwefan wych – yn enwedig ar gyfer tiwtoriaid newydd – sydd yn cynnwys llawer iawn o erthyglau ac adnoddau ‘am ddim’. Mae cronfa dda o gardiau fflach ac adnoddau eraill ond mae angen ymuno ag ‘Ystafell y Staff’ ac mae hynny’n golygu talu ffi.

www.onestopenglish.com